Mae Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau yn cael ei chynal rhwng y 23ain a’r 29ain o Fawrth yn 2020. Byddwn yn dathlu’r cyfnodau arbennig pan ddaw pobl o wahanol oedrannau at ei gilydd i rannu’r un buddion. Ymunwch â ni yn ystod #IntergenerationalWeek pan rydym yn dweud na i’r bwlch oedran.
Llun: 'Old People's Home for 4 Year Olds', Series 1 (Channel 4, CPL Productions) yn St Monica Trust Cote Lane. © Barbara Evripidou.
Pontio’r cenedlaethau (ansoddair): Sy’n ymwneud ag, yn cynnwys, neu’n effeithio sawl cenhedlaeth.
Y Cefndir
Amser maith yn ôl, roedd y genhedlaeth hŷn yn gwneud llawer mwy gyda’r genhedlaeth iau, ac i’r gwrthwyneb. Ond mae amseroedd wedi newid. Rhieni yn cael plant yn hwyrach, ac yn byw yn bellach o’i rhieni ei hunain. Heb sôn fod bywyd yn ymddangos llawer prysurach y dyddiau yma. Ychwanegwch i hyn y ffaith fod ein bywydau fwy ar wahân a mae llety ar gyfer pobl hŷn, gan amlaf, ar wahân i ble mae’r genhedlaeth iau yn byw.
Gall pob un o’r pethau uchod ychwanegu i’r bwlch rhwng y gwahanol oedrannau. Mae pobl yn dechrau teimlo’r ynysigrwydd. Yn ogystal â dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth salach o’n gilydd. Gall oedraniaeth ac agweddau negyddol sefydlu lawer yn rhy hawdd. Rydym ni’n credu ei bod hi’n amser i ni newid pethau. Mae’n amser dweud na i’r bwlch oedran.
Yn y flwyddyn gyntaf o’r Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau ein nod yw cael pobl i siarad am eu prosiectau pontio’r cenedlaethau cymaint a phosibl yn ei ardaloedd.
Nid oes angen i’r hyn rydych yn ei bostio fod am ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos ei hun, ond rhannwch beth yw’r prosiect, yn lle caiff ei gynnal a beth rydych yn ei garu fwyaf am y prosiect! Os y medrwch ddefnyddio’r hashnod, hyd yn oed gwell! Mi fedrwch lawrlwytho ein adnoddau defnyddiol neu ein pecyn cyfryngau os ydych eisiau ysbrydoliaeth.
CLICIWCH I LAWRLWYTHO’R ADNODDAU
Media pack Twitter post Twitter header image Facebook post Facebook cover image Instagram post
Edrychwch fan hyn i gael ysbrydoliaeth gan lwyth o astudiaethau achos ar draw y genedl. Ac os ydych yn edrych i gychwyn eich prosiect pontio’r cenedlaethau eich hunain, mynnwch gopi o’r llawlyfr pontio’r cenedlaethau am ddim i gael ambell syniad!
Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynghylch Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau a sut y gallwch chi ymuno yn yr ymgyrch cysylltwch gyda Ben Dunn ar ben.dunn@stmonicatrust.org.uk neu ffoniwch 07498278664
Special thank you to Mirain Llwyd Roberts, Bridging the Generations Coordinator at Gwynedd Council, for kindly translating this page.